Rhaglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol y DU
Mae Rhaglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol y DU (NQTP) yn cynrychioli £1 biliwn o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat er mwyn dwyn ynghyd y byd academaidd, y byd diwydiant a’r llywodraeth i gyflymu’r broses o gyflwyno technolegau cwantwm i’r farchnad, ynghyd ag agor cyfleoedd newydd i fusnesau Prydain a datgloi galluoedd newydd a all wneud gwahaniaeth i’n bywydau bob dydd.
Mae’r rhaglen yn cefnogi’r arfer o fuddsoddi mewn ymchwil, arloesi, sgiliau ac arddangos technoleg, a hefyd mae’n ariannu grantiau ar gyfer cwmnïau’r DU er mwyn eu helpu i bennu a datblygu dulliau o ddefnyddio a chymhwyso technolegau cwantwm.
Ein gweledigaeth
Gweledigaeth ddatblygedig yn ymwneud â chreu “economi a ysgogir gan dechnolegau cwantwm”, lle bydd technolegau cwantwm yn:
- rhan annatod o asgwrn cefn digidol a sylfaen weithgynhyrchu uwch y DU
- datgloi arloesedd ar draws sectorau er mwyn ysgogi twf a helpu i adeiladu economi a chymdeithas lewyrchus a chadarn
- cyfrannu’n helaeth at lewyrch a diogelwch y DU.
Er mwyn cyflawni hyn, ein nod yw gwneud y DU:
- yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang mewn gwyddor gwantwm a datblygiad technolegau
- yn rhywle y bydd cwmnïau cwantwm neu gwmnïau byd-eang yn troi ato’n naturiol i leoli eu gweithgareddau cwantwm
- yn lle a ffefrir ymhlith buddsoddwyr a thalentau byd-eang.
Ein rhaglen
Mae’r Rhaglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol yn buddsoddi mewn amryw byd o raglenni er mwyn datblygu technolegau mewn ystod eang o feysydd a sectorau. Mae’r rhaglen yn cefnogi’r arfer o ddatblygu technolegau cwantwm yn y byd academaidd ac mewn gwaith ymchwil, ar gyfer cryfhau galluoedd, mewn busnesau, a hefyd tuag at aeddfedrwydd diwydiannol. Bydd ein rhaglen yn gwneud y canlynol:
- yn diogelu safle’r DU mewn perthynas â thechnolegau cwantwm
- yn ysgogi twf yn y farchnad, gan ddatgloi arloesedd ac ecosystem lewyrchus
- yn cynnal ac yn adeiladu ar ragoriaeth y DU mewn ymchwil a thechnoleg
- yn creu rhwydwaith cadarn o asedau cenedlaethol a chydberthnasoedd rhyngwladol a fydd yn fuddiol i’r naill ochr a’r llall
- yn tyfu, yn denu ac yn dal gafael ar dalent.
Amdanom ni
Bydd oes newydd y technolegau cwantwm yn trawsnewid economïau ein hoes ddigidol sy’n prysur aeddfedu ac yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas; bydd yn datblygu gofal iechyd a dulliau o warchod yr amgylchedd, bydd yn cyrraedd targedau sero-net ac yn gwneud gwell defnydd o dir, bydd yn cefnogi gwasanaethau ariannol a dulliau cyfathrebu, a bydd yn darparu galluoedd amddiffyn a diogelu ynghyd â phŵer cyfrifiadura. Bydd y technolegau hyn yn creu cyfleoedd newydd yn y farchnad fyd-eang a manteision cystadleuol i’r rhai a all eu datblygu a’u defnyddio, gan ddatgloi arloesedd trwy eu hintegreiddio mewn systemau cymhleth.
Oherwydd hyn, gwneir ymdrech fawr drwy’r byd i ddatblygu technolegau cwantwm. Mae’r DU yn barod i greu a defnyddio technolegau cwantwm. Sefydlwyd y Rhaglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol (NQTP) yn 2014 gan y partneriaid (EPSRC, STFC, IUK, Dstl, MoD, NPL, BEIS, GCHQ, NCSC2) er mwyn ceisio sicrhau y byddai’r DU yn arwain y byd o ran datblygu a masnacheiddio’r technolegau yma. Yr hyn sydd wedi arwain at lwyddiannau’r Rhaglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol hyd yn hyn yw dull cydlynol sy’n dwyn system gydgysylltiedig ynghyd. Mae’r ffocws hwn yn neilltuo’r DU oddi wrth y gystadleuaeth ryngwladol.
Yn ystod cam cyntaf y Rhaglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol (2014-19) gwnaed cynnydd anhygoel tuag at gynhyrchu systemau integredig a chreu diwydiant technolegau cwantwm yn y DU. Mae ein hecosystem gydgysylltiedig unigryw a llewyrchus yn cynnwys sefydliadau ymchwil o’r radd flaenaf, cwmnïau deillio arloesol yn y maes technolegau cwantwm, integreiddwyr systemau a chyflenwyr cydrannau o ddiwydiannau sy’n bodoli eisoes, a hefyd gwmnïau rhyngwladol, gyda phob un yn rhyngweithio i greu llwyddiannau gwirioneddol ac ysgogi’r gwaith o ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau.
Bydd cam nesaf y rhaglen yn anelu at ddatgloi ton newydd o arloesi ledled yr economi, gan sicrhau mai’r DU fydd y lle naturiol i droi ato ar gyfer technolegau cwantwm, talent a buddsoddiad. Bydd y cam hwn yn anelu at ddefnyddio dyheadau twf a nodau hirdymor y sector i esgor ar ffyniant economaidd a diogelwch cenedlaethol, ynghyd â diwallu anghenion y gymdeithas. Cewch ragor o wybodaeth am y prosiectau sy’n rhan o’r ail gam yn “ein rhaglen”.
Yn 2020, cyhoeddodd y Rhaglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol fersiwn ddiweddaraf ei dogfen bwriad strategol (PDF, 11MB). Mae’r ddogfen hon yn pennu gweledigaeth strategol newydd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf er mwyn creu ‘economi a ysgogir gan dechnolegau cwantwm’.
Pam technolegau cwantwm?
Mae technolegau cwantwm yn gwbl greiddiol o ran adeiladu Teyrnas Unedig iachach, gyfoethocach a gwytnach. Cynhaliwyd asesiadau tebyg gan y rhan fwyaf o economïau datblygedig y byd, ac mae hyn wedi arwain at fentrau eang a gefnogir gan lywodraethau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau a ysgogir gan dechnolegau cwantwm. Trwy wneud yn fawr o briodweddau ffisegol ffotonau, electronau, atomau a deunyddiau cyddwysedig i sicrhau datblygiadau technolegol, gallwn gymhwyso’r galluoedd newydd hyn at amrywiaeth o sectorau. Er enghraifft: clociau cywirach ar gyfer cofnodi amser er mwyn esgor ar fanteision mewn systemau ariannol; synwyryddion cywirach a mwy symudol ar gyfer rhoi diagnosis a chael delweddau rhatach a llai mewnwthiol o’r ymennydd; cyfrifiaduron mwy pwerus o lawer ar gyfer ceisio datrys rhai o broblemau cymhleth y gymdeithas; neu dechnegau cyfathrebu newydd ar gyfer helpu i drosglwyddo data’n ddiogel ac esgor ar arloesi ehangach ar draws asgwrn cefn digidol y genedl.
Bydd gwell dealltwriaeth a rheolaeth dros yr hyn a elwir yn ‘effeithiau cwantwm’ – megis arosodiadau a chyfrodeddiad – yn arwain at don newydd o ddatblygiadau, a bydd y datblygiadau hyn yn sail i’n heconomi a’n cymdeithas: synhwyro, trosglwyddo ac amgryptio data, amseru a chyfrifiadura. Nod y rhaglen yw datblygu a defnyddio’r effeithiau cwantwm hyn er mwyn datgloi eu potensial fel cyfryngau newid yn y DU.